{"product_id":"goreuon","title":"Goreuon","description":"\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae’r casgliad yma o ganeuon yn dathlu 40 o flynyddoedd yn canu gyda’n gilydd a chwarter canrif gyda chwmni Sain.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eRydym wedi cynnwys 17 o’r caneuon mwyaf poblogaidd ’da ni wedi eu recordio dros y chwarter canrif yn ogystal â recordio 3 cân ychwanegol. Mae dwy o’r caneuon yn rhai newydd a’r trydydd yn un o glasuron yr iaith Gymraeg gan Hogia’r Wyddfa sef y gân emosiynol gan y bardd T Rowland Hughes – Y Gwanwyn. Cefais fy magu yng nghysgod Yr Wyddfa yn Nantlle ac mae’r gân yn golygu llawer i mi.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eFe gyfansoddwyd y gan Dau Yn Un gan ein ffrind, a cherddor gwych, Geoff Betsworth a’i wraig Sarah ac mae’r gân Hafan yn golygu llawer i ni gan iddi ein helpu i ddod drwy gyfnod anodd pan oeddwn yn dod dros ganser dwywaith. Diolchwn i Dafydd Iwan am addasu’r ddwy gân yn wych a theimladwy iawn.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eHoffwn ddiolch i’n ffans sydd wedi dod yn ffrindiau ffyddlon dros y blynyddoedd – ’da chi’n wych o bobol a diolch i Sain am ryddhau’r casgliad yma o’n hoff ganeuon i ddathlu 40 o flynyddoedd o ganu gyda’n gilydd.\u003c\/p\u003e\n\u003col data-mce-fragment=\"1\"\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Hafan\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Dau yn Un\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Y Gwanwyn\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Dwylo 'Nhad\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Eldorado\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Atgof am Eryri\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Ym Mharadwys Fan Draw\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Cerdded Dros y Mynydd\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Cân y Bugail\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Douarnenez\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Beth yw Lliw y Gwynt\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Yr Hen Oriawr Aur\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Isaac Lewis\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Awn i Wario D'Arian Cariad\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Milltiroedd\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Rhan o Dy Fyd\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Y Ffordd\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Rhywun Fel Ti\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Ffeirio am Ffortiwn\u003c\/li\u003e\n\u003cli data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u0026nbsp;Cân i Ynys Iona\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ol\u003e","brand":"Iona ac Andy","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":43988087865638,"sku":"SCD2803","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/products\/scd2803b.jpg?v=1668673722","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/goreuon","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}