{"product_id":"geraint-jarman-t-shirt","title":"Crys-T Geraint Jarman (50 mlynedd ers rhyddhau albym cyntaf)","description":"\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 12.0pt; line-height: 107%;\"\u003eI ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau albym cyntaf Geraint Jarman, ‘Gobaith Mawr y Ganrif’, ac i dalu teyrnged i un o artistiaid cerddorol mwyaf blaengar a dylanwadol Cymru, mae Sain yn ail-ryddhau nifer cyfyngedig o’r albym ar feinyl, ynghyd â crys t arbennig. Dyma albym cyntaf y canwr-gyfansoddwr a’r bardd, albym a ryddhawyd yn wreiddiol ar y label yn 1976.\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 12.0pt; line-height: 107%;\"\u003eRoedd Geraint Jarman yn ffigwr allweddol yn hanes cerddorol diweddar Cymru - yn gerddor heb ei ail a’i yrfa artistig wedi rhychwantu chwe degawd. Wedi’r albym cyntaf hwn yn 1976, aeth ymlaen i recordio a rhyddhau albym gyda label Sain bob blwyddyn hyd 1981, ac yna rhyddhaodd nifer o albyms ar hyd y degawdau dilynol, gyda’r dwythaf yn 2020, ar label Ankst. Gyda’i gymysgedd unigryw o roc, reggae a pop, gydag ambell faled dyner, roedd arddull gerddorol Geraint Jarman yn torri tir newydd yn y cyfnod cynnar hwn, arddull gerddorol na chlywyd mo’i fath yn y Gymraeg cyn hynny. Roedd yn llais i’r Gymru newydd, llais yn cynrychioli’r Gymru ddinesig ifanc a chyfoes a’i berfformiadau byw cynhyrfus ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au yn ddylanwad trydanol, yng ngwir ystyr y gair, ar do newydd o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru. \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 12.0pt; line-height: 107%;\"\u003eCychwynnodd gyrfa gerddorol Jarman ddiwedd y 60au, gyda’r band gwerin dychanol Bara Menyn, gyda Meic Stevens a Heather Jones yn gyd-aelodau, ac wedi cyfansoddi nifer o ganeuon ar gyfer amrywiol artistiaid hyd at ganol y 70au, roedd Jarman yn barod i recordio a rhyddhau fel artist unigol. Cyfansoddwyd holl ganeuon ‘Gobaith Mawr y Ganrif’ gan Geraint ei hunan ac mae’n albym sy’n garreg filltir nodedig yn hanes canu cyfoes Cymraeg. Recordiwyd yr albym yn Stiwdio Stacey Road, Caerdydd, dros ddau ddiwrnod a’i gymysgu mewn 10 awr, ac mae’n arddangosfa berffaith o dalentau cyfansoddi, barddoni a pherfformio Jarman. Ymhlith y cerddorion eraill ar yr albym oedd y dihafal Tich Gwilym ar y gitâr, Lincoln Carr ar y bas, a Phil Maynard, eto ar y gitâr. Ymddangosodd Dod Wilding, aelod o Racing Cars, ar y drymiau, a Geraint Watkins ar yr acordion a’r piano, cerddor a berfformiodd maes o law gyda Paul McCartney a Van Morrison. Cyfrannwyd drymiau ychwanegol gan Steve Keely o'r band Kimla Taz ac roedd Bethan Miles ar y ffidil a'r feiola. Roedd y caneuon yn adleisio sain newydd yn y Gymraeg o ran dylanwadau reggae wedi ei blethu gyda gwerin Cymreig, baledi a roc, gyda thinc o Fender Stratocaster Tich Gwilym yn rhoi sglein go wahanol a chyffrous ar bopeth.\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 12.0pt; line-height: 107%;\"\u003eBydd Geraint Jarman a’i gerddoriaeth yn ddylanwad hir-hoedlog iawn ar Gymru a’i phobl a 2026 yn gyfle perffaith i ddathlu ei gyfraniad, ei lwyddiannau a’i waddol, a hynny drwy ail-ymweld â’r albym cyntaf hwnnw a fu’n ddechrau ar rywbeth arbennig iawn.\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 12.0pt; line-height: 107%;\"\u003eBydd feinyls a crys t ‘Gobaith Mawr y Ganrif’ ar gael ar Fai 22 a bydd sgwrs arbennig, ‘Storis Jarman’, gyda Huw Stephens, Peredur ap Gwynedd ac Elinor Wyn Reynolds, yn Tafwyl ar ddydd Sul, Mehefin 21 am 2 o’r gloch. \u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Geraint Jarman","offers":[{"title":"S","offer_id":57032745812343,"sku":null,"price":20.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true},{"title":"M","offer_id":57032745845111,"sku":null,"price":20.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true},{"title":"L","offer_id":57032745877879,"sku":null,"price":20.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true},{"title":"XL","offer_id":57032745910647,"sku":null,"price":20.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/files\/scd1022-pecyn-crys-du_6b758080-83dd-4a87-aa9a-388e043ba66d.png?v=1776768995","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/geraint-jarman-t-shirt","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}