{"product_id":"five-days-of-freedom","title":"Pum Diwrnod o Ryddid","description":"\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eCefndir\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn nhridegau’r ganrif cyn y ddiwethaf, gwelwyd y chwyldro cyntaf gan y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Lansiwyd y Siarter yn y flwyddyn 1837 ac fe gafodd groeso brwdfrydig gan y gweithwyr ymhobman. Crisialwyd holl obeithion a dyheadau’r werin yng ngofynion y Siarter. O ystyried mai 16 miliwn o bobl oedd poblogaeth Prydain Fawr, mae’n arwyddocaol fod dros 3 miliwn, o ddynion yn unig, wedi arwyddo’r Siarter. Roedd y Siarter yn sicr yn chwyldroadol yn yr hyn a fynnai – pleidlais i bob dyn, pleidlais gudd heb orfod profi perchnogaeth. Bu gweithredoedd chwyldroadol ymudiad hwn yn ysbrydoliaeth, maes o law, i gewri megis Marx ac Engels.\u0026nbsp;Gosodwyd amodau’r Siarter ger bron y Senedd yn Llundain ond\u0026nbsp;gwrthodwyd pob un. Wedi’r gwrthod, daeth yr arweinwyr ynghyd i geisio penderfynu strategaeth y mudiad. Ni lwyddodd i roi arweiniad i’r gweithwyr ac ni welwyd unrhyw weithredu tactegol gan y mudiad yn ei gyfanrwydd. Dim ond yng Nghymru y gwelwyd gwrthdaro uniongyrchol, a hynny yn Llanidloes a Chasnewydd yn 1839. Yn Llanidloes, roedd mudiad y Siartwyr yn boblogaidd iawn ymysg y gweithwyr. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yno, a mynychwyd hwy gan nifer fawr o bobl. Yn dilyn un o’r cyfarfodydd, arestiwyd tri o arweinwyr y Siartwyr gan heddweision a fewnfudwyd o Lundain. Cymerwyd y tri i westy’r Trewythen yn Stryd y Dderwen Fawr. Ymatebodd y dorf yn reddfol gan ymosod ar y gwesty a rhyddhau’r tri. Anafwyd yn ddifrifol un o’r heddweision yn y sgarmes ac fe achoswyd difrod mawr yn y Trewythen.\u0026nbsp;Roedd T. E. Marsh, cyn faer y dref, yn allweddol iawn yn yr hyn a ddigwyddodd. Ef a alwodd am gymorth gan y milwyr i wrth sefyll y\u0026nbsp;Siartwyr. Cred rhai ei fod wedi twyllo’r Siartwyr, gan roi’r argraff ar un adeg ei fod yn cydymdeimlo ag amcanion y mudiad.\u0026nbsp;Llwyddodd y Siartwyr i reoli’r dref am bum niwrnod ond yna, wedi’r newydd gyrraedd y dref fod y milwyr ar eu ffordd, dihangodd arweinwyr y mudiad. Llwyddwyd i ddal y rhan fwyaf ohonynt ac fe’u dedfrydwyd yn Llys y Trallwng: James Morris, pymtheg mlynedd o alltudiaeth; John Ingram, Abraham Owen a Lewis Humphreys, saith mlynedd o alltudiaeth. Carcharwyd eraill yng ngharchar Trefaldwyn.Methiant fu’r gwrthdaro hwn yn Llanidloes oherwydd fod cyfalafiaeth yn orchfygol. Roedd y dosbarth gweithiol yn rhy anaeddfed eutactegaeth, yn rhy ansicr o’u hathroniaeth gwleidyddol. Er hynny, fe heuwyd yr hadau a gwelwyd ffrwythau’r aberth yn y genhedlaeth nesaf. Dim ond Pum Diwrnod o Ryddid a gafwyd yn Llanidloes, ond gadawyd y blas a’r dyhead am ryddid yng nghalonnau’r werin am byth.Perfformiwyd y ddrama gerdd Pum Diwrnod o Ryddid gan Gwmni Theatr Maldwyn yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Y Drenewydd yn 1988.Penri Roberts.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAct 1\u003c\/strong\u003e\u003cbr\u003eGol. 1\u0026nbsp; \u0026nbsp; I be? \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 17\u003cbr\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp; \u0026nbsp; \u0026nbsp; \u0026nbsp; \u0026nbsp; \u0026nbsp;Rhoddwn ddiolch \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 34\u003cbr\u003eGol. 2\u0026nbsp; \u0026nbsp; Fy mreuddwyd \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 44\u003cbr\u003eGol. 3\u0026nbsp; \u0026nbsp;Dewch i mewn \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 59\u003cbr\u003eGol. 4\u0026nbsp; \u0026nbsp;Yn cau amdanaf i \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 75\u003cbr\u003eGol. 5\u0026nbsp; \u0026nbsp;Naw o’r gloch \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 91\u003cbr\u003eGol. 6\u0026nbsp; \u0026nbsp;Mae’n ddiwedd dydd \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 117\u003cbr\u003eGol. 7\u0026nbsp; \u0026nbsp;Y bicell a’r gwn \u0026nbsp; \u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 133\u003cbr\u003eGol. 8\u0026nbsp; \u0026nbsp;Rhoddwn ddiolch 2 \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . 142\u003cbr\u003eGol. 9\u0026nbsp; \u0026nbsp;Cannwyll ein rhyddid \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . 147\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAct 2\u003c\/strong\u003e\u003cbr\u003eGol. 10\u0026nbsp; \u0026nbsp;Cannwyll ein rhyddid 2 \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . . . . . . . . . 157\u003cbr\u003eGol. 11\u0026nbsp; Na, na \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 173\u003cbr\u003eGol. 12\u0026nbsp; \u0026nbsp;Wyt ti wedi meddwl? \u0026nbsp; \u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . 205\u003cbr\u003eGol. 13\u0026nbsp; \u0026nbsp;Arestio a galw’r bobl \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp; . . . . . . . . . 222\u003cbr\u003eGol. 14\u0026nbsp; \u0026nbsp;Fy mreuddwyd 2 \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 232\u003cbr\u003eGol. 15\u0026nbsp; \u0026nbsp;Mae wedi mynd i’r diawl \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . 240\u003cbr\u003eGol. 16\u0026nbsp; \u0026nbsp;Ar noson fel hon \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 245\u003cbr\u003eGol. 17\u0026nbsp; \u0026nbsp;Ar y gorwel \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 251\u003cbr\u003eGol. 18\u0026nbsp; \u0026nbsp;Muriau moel \u0026nbsp; \u0026nbsp;\u0026nbsp;. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 260\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e","brand":"Derec Williams, Linda Gittins, Penri Roberts","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56336149152119,"sku":"CS018","price":24.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/files\/cs018b.jpg?v=1765373007","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/five-days-of-freedom","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}