{"product_id":"chwilio-am-y-gan","title":"Chwilio Am Y Gân","description":"\u003cp\u003eDYDDIAD RHYDDHAU - Hydref 30ain\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae Sain yn falch o gyflwyno ail albym y canwr o Bwllheli, Dylan Morris. Daeth Dylan yn amlwg yn ystod y cyfnod clo gan ryddhau caneuon, senglau ac albym ar label Sain dros y blynyddoedd diwethaf. Bellach, mae’n barod i rannu rhagor o ganeuon a’r albym newydd, ‘Chwilio am y Gân’, albym sy’n arddangos sain newydd yn tueddu mwy at ganu gwlad cyfoes.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eGyda chriw o gerddorion gwych - Aled Wyn Hughes ar y bas ac offerynnau taro, Deian Elfryn ar y drymiau, John Williams ar allweddellau, Patrick Rimes ar y llinynnau, Wyn Pearson ar gitâr acwstig a gitâr drydan, Euron Jones ar y gitâr pedal ddur a Gwenan Gibbard ar y delyn - ac wedi ei gynhyrchu gan Aled Wyn Hughes a’i recordio yn Stiwdio Sain, dyma albym sy’n adlewyrchu taith bersonol Dylan o ddarganfod ei arddull cerddorol ac o greu repertoire newydd sy’n dyst i gyfnod prysur a chynhyrchiol yn ei fywyd tra ar yr un pryd yn mynegi profiadau personol sy’n agos at ei galon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e“Mae wedi cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl i allu rhannu’r albym yma”, meddai Dylan, “ond mae’r blynyddoedd dwytha wedi mynd â fi ar daith o ddatblygu fy hun fel artist ac i chwilio am syniadau, geiriau ac alawon…Mae wedi bod yn daith addysgiadol i mi wrth i mi geisio ysgrifennu a chyfansoddi mwy, taith a oedd weithiau yn un hawdd ac yn aml yn un anodd, ond yn un llawn hwyl, emosiwn a phleser.”\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eCyfansoddwyd ‘Angharad’, ‘Un Gân Arall’, a ‘Paid Troi Nôl’ gan Dylan ei hun, caneuon yn amrywio o’r llon i’r lleddf ac sy’n arwydd o gam pendant ymlaen yn ei ddatblygiad cerddorol, ac mae ei gân ddidwyll a theimladwy, ‘Er Cof Amdanat Ti’, yn cynnwys lleisiau cefndir Catrin Angharad Jones a chriw Hogia Llanbobman, y geiriau gan Mabel Parry. Cydweithiodd Dylan gyda’i ffrind, Lois Roberts, ar y gân ‘Galwa Arnaf Fi’, cân sy’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae cân agoriadol fachog yr albym, ‘Chwilio am y Gân’ yn un o ganeuon Barry ‘Archie’ Jones, ac mae Dylan yn ei chyfri hi’m fraint cael bod wedi cyd-weithio gyda Barry ar yr albym a chanu rhagor o’i ganeuon, megis ‘Roulette’. Gweithiodd gyda Barry ar gân arbennig o waith Alun ‘Sbardun’ Huws, ‘Anthem Roc a Rôl’, ac mae Dylan yn ddyledus iawn i Gwenno am gael cynnwys hon - un o ganeuon coll y dewin o gyfansoddwr caneuon cyfoes ac un na recordiwyd o’r blaen.\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp; \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eCyfansoddwyd ‘Gitâr Newydd’ yn arbennig i Dylan gan Ynyr Roberts (Brigyn, Popeth) ac mae ‘Grace’ yn gyfieithiad Cymraeg o’r gân werinol boblogaidd Wyddelig.\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp; \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eGyda chyfnod prysur o gigio o’i flaen mae Dylan yn edrych ymlaen at berfformio’r caneuon newydd ar hyd a lled Cymru.\u003cb\u003e\u003cu\u003e\u003c\/u\u003e\u003c\/b\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eTRACIAU:-\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e1 Chwilio am y Gân\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u003cbr\u003e2 Angharad\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e3 Galwa Arnaf Fi\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e4 Paid Troi Nôl\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e5 Er Cof Amdanat Ti\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e6 Anthem Roc a Rôl\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u003cbr\u003e7 Grace\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e8 Ty’d yn ôl i Mreichiau Heno\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u003cbr\u003e9 Gitâr Newydd\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e10 Roulette\u0026nbsp;\u0026nbsp;\u003cbr\u003e11 Y Ddawns\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003cbr\u003e12 Un Gân Arall\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e","brand":"Dylan Morris","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57625898221943,"sku":"RHAG-ARCHEBU - SAIN SCD2879","price":21.0,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/files\/scd2879_3k.jpg?v=1792502909","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/chwilio-am-y-gan","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}