{"product_id":"can-am-sana","title":"Cân am Sana","description":"\u003cp\u003eAr ôl llwyddiant anhygoel gyda’u halbwm cyntaf ‘Cedors Hen Wrach’, mae sain nodweddiadol yr hogiau’n gyfuniad o alawon bachog a geiriau doniol. Mae caneuon fel `Coffi Du’, `Carots’ a`Trôns Dy Dad’ wedi tyfu i fod yn glasuron ac sy’n amhosib i chi beidio gwenu wrth wrando arnynt. Mae’r hogiau wedi creu dimensiwn newydd a chyffrous i’r sin roc Cymraeg.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEleni penderfynodd Gwibdaith Hen Frân recordio cân Nadolig gyda chyflwynwyr C2 Radio Cymru; Magi Dodd, Glyn Wise, Jeni Lyn a BB Aled, gydag elw’r gwerthiant yn mynd i Gronfa Plant mewn Angen.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e“Odd e’n bleser cael recordio cân Nadolig ‘da Gwibdaith Hen Frân sy’n griw ifanc a brwdfrydig. Ro’n nhw’n ofnadwy o amyneddgar ’da ni’r novices”, meddai Magi Dodd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd y profiad yn un hollol wahanol ac unigryw i Glyn Wise; “Pan da chi’n canu yn y gawod ma’ ‘na eco sydd yn gneud i’ch llais chi swnio’n dda. Roedd o’n dipyn o sioc i glywed fy llais i drwy’r `head-phones’ wrth i ni recordio. Gymrodd hi ‘chydig o droeon i’w gael o’n iawn ond roedd o’n oce yn y diwedd”.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eO ganlyniad, mae Rasal yn falch o gyflwyno `Cân am Sana’, sy’n llawn hwyl yr Ŵyl. \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYchwanegodd Magi “Ma’ hi’n gân hwyliog iawn a alla i ddychmygu pobl yn dawnsio iddi yn eu partis Nadolig. Ma’ 60c o bob CD sy’n cael ei werthu’n mynd at Plant Mewn Angen hefyd felly bydd yn codi arian i elusen yn ogystal â rhoi gwên ar wyneb y rhai sy’n ei phrynu hi”.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEP sydd yn cynnwys dwy gân yw hon; `Cân am Sana’ a`Seren’ sydd wedi cael ei becynnu mewn cerdyn Nadolig unigryw. Gwnaed y cartŵn Nadoligaidd o griw C2 a Gwibdaith Hen Frân gan Deian Owen a Clinton Owen a limrig gan Menna Medi. \u003c\/p\u003e","brand":"Gwibdaith Hen Frân","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57616599646583,"sku":"RASAL CD023","price":1.7,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/files\/Rasal23GwibdaithHenFran.jpg?v=1792411290","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/can-am-sana","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}