Sain Records

Various Artists - Caneuon Rhys Jones

Various Artists - Caneuon Rhys Jones

DAFYDD IWAN

Mi wn y bydd croeso mawr i’r casgliad hwn, sy’n gofnod o gyfraniad cwbl arbennig Rhys Jones I gerddoriaeth Cymru. Ac wrth wrando ar y caneuon, cawn ddwyn i gof y cymeriad cynnes, annwyl a difyr a gyfoethogodd ein diwylliant am gymaint o flynyddoedd. Ac imi, yr hyn oedd yn gwneud Rhys mor arbennig oedd ei agwedd tuag at gerddoriaeth, nid fel disgyblaeth neu bwnc academaidd, ond fel rhan annatod o hwyl a chreadigrwydd bywyd bob dydd. Bu ei ddylanwad ar gantorion a chyfansoddwyr yn anfesuradwy – fel y tystia Gareth Glyn – ond roedd hefyd yn ddylanwad ar y rhai a gafodd hwyl ar ganu, ac yn wir y miloedd sy’n mwynhau gwrando ar ganu. Roedd Rhys yn feistr ar y piano, ac fe wyddai nad un math o gerddoriaeth oedd yn apelio at bobol, ond bod yr amrywiaeth yn rhan annatod o’r apêl. Ac y mae’r amrywiaeth hwnnw, y tapestri lliwgar o wahanol arddulliau, yn amlwg iawn yn y casgliad hwn. Yn Arian, Arian allan o’r sioe Ffantasmagoria, gwelwn fel yr oedd Rhys yn deall i’r dim bosibiliadau rhyfeddol y sioe gerdd, ac mewn cyferbyniad llwyr, yn Cilfan y Coed, clywn ei ddawn gerddorol delynegol ar ei hyfrytaf. Prawf arall o gamp Rhys oedd ei fod wedi gadael ei ôl ar sawl cenhedlaeth, ac yn dal i apelio at bob oed. Bu ef a’i briod, Gwen, yn hyfforddi cannoedd o bobl ifanc, ac yn difyrru’r tyrfaoedd drwy gyfrwng nifer o gorau a phartïon mor amrywiol â Chôr y Glannau a Chantorion Gwalia, a chawn flas ar y cyfan yn y casgliad hwn. Ac ychwanegwyd at y darnau a recordiwyd ers sawl blwyddyn rai a recordiwyd yn arbennig gan genhedlaeth newydd o gantorion ifanc, yn cynnwys disgynyddion Rhys ei hun. Nodwedd arall amlwg yn ei waith oedd ei genedlaetholdeb gwresog, fel yr amlygwyd ef yn y gân fytholwyrdd O Gymru, cân sy’n cael ei hail-eni’n barhaus gan gorau ac unigolion hyd heddiw. A thrwy’r cyfan, mae ei deyrngarwch i’w filltir sgwâr yn Sir y Fflint, lle bu’n gwarchod y ffin drwy gydol ei oes.

CARYL PARRY JONES

Doedd ’na neb fel Dad. Roedd o’n ffrind I bawb, yn hynod o ffraeth a doniol ac yn ŵr bonheddig o’i goryn i’w sawdl. Ond roedd cael fy magu yn swˆn ei alawon bendigedig, ei hamonïau cyfoethog a’i allu rhyfeddol fel pianydd yn fy ngwneud yn hogan freintiedig dros ben. Mae ’na hiraeth mawr ar ei ôl o ond diolch byth mae ganddon ni ei ganeuon. A bydd rheiny’n byw am byth.

GARETH GLYN

Mi fydda i’n cofio Rhys Jones am byth fel yr athro ysgol a’m hysbrydolodd i ymhyfrydu mewn cerddoriaeth, ac i’w dewis fel gyrfa. Roedd yr effaith gafodd ar fachgen diog 13 oed – oedd eisoes wedi penderfynu rhoi’r gorau i wersi piano – yn sydyn ac eithriadol. Roedd ei wersi’n fwynhad pur, wedi’u cyflwyno yn y dull llawn hiwmor hwnnw y daethon ni i gyd i’w adnabod a’i hoffi gymaint. Roedd ei gefndir a’I hoffterau ei hun – oedd yn cynnwys jazz a cherddoriaeth ysgafn – yn cyfoethogi’I wersi, ac yn ddylanwad cryf ar ei waith gyda chôr yr ysgol: nid ar chwarae bach y byddid yn anghofio’i drefniannau unigryw o ganeuon o bob rhan o’r byd; nac ychwaith ei arddull biano hynod, oedd wedi’i hysbrydoli gan Fats Waller a chewri eraill yr arddull stride (lle mae’r llaw chwith yn neidio gyda chyflymder a chywirdeb rhyfeddol o waelod yr allweddell i’r canol). Fel toreth o agweddau eraill ar ei waith, roedd hwn yn un o’r rhai y ceisiais i’w hefelychu – yn wir, mae ôl dylanwad Rhys Jones yn gwbwl amlwg ar nifer o’m cyfansoddiadau i, yn enwedig ym myd y ddrama gerdd, maes arall lle’r oedd o’n feistr. Roedd Rhys yn rhoi cyfle i bob plentyn oedd ag awydd i gyfrannu. Mi fydd cyn‑ddisgyblion sydd bellach yn eu chwedegau yn cofio’i drefniant ysbrydoledig o O Mae’n Braf, ar gyfer y plant oedd yn derbyn gwersi yn yr ysgol ar offerynnau megis y ffidil, y soddgrwth, y clarinet a’r bas dwbl. Ar arddull y big band y seiliodd Rhys ei drefniant, gan alw fel uchafbwynt ar i res o chwaraewyr recorder sefyll i ddatganu’r thema fel sacsoffonwyr Glenn Miller. Yn y cyfnod yma y deuthum i adnabod, a thrysori, ei gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae’i gyfrol yn y gyfres Caneuon Newydd i Ysgolion yn batrwm o’r hyn y dylai caneuon o’r fath fod, gyda gwreiddioldeb a ffresni yn yr alawon a’r gynghanedd gerddorol; ac mae’r darnau i’w gôr deulais, fel Llan-y-Dŵr, yn glasuron. Cefais y fraint o fod yn ddisgybl iddo yn y cyfnod pan fu’n cyfansoddi un o’i ganeuon enwocaf, O Gymru; roeddem yn dyst i ddatblygiad y gân, a roedd Rhys yn croesawu’n sylwadau ni arni. Arwydd o haelioni’i gymeriad oedd iddo ddweud wedyn ei fod wedi ymgorffori’r awgrymiadau hynny yn y gân, er wrth gwrs mai campwaith o’i eiddo ef oedd hi drwyddi draw, a darn oedd, fel cynifer o rai eraill, yn amlygu’i wreiddioldeb ac arloesedd fel cyfansoddwr.
Er i Rhys Jones adael Ysgol Maes Garmon ond pedair blynedd wedi’n cyfarfyddiad cyntaf ni, rwy’n teimlo’n freintiedig ein bod wedi cadw mewn cysylltiad am dros ddeugain mlynedd wedyn; a doedd dim pylu o fath yn y byd ar ei frwdfrydedd, ei ddireidi a’i ymroddiad llwyr i’w ddisgyblion ac i’w gorau. Roedd yn anrhydedd ac yn bleser pur cael adnabod rhywun a fu’n ysbrydoliaeth, nid yn unig i mi ond i gynifer o bobol eraill ddaeth i gysylltiad ag o yn ei yrfa hir a disglair.

Track Listing

  1. O Gymru - Cantorion Colin Jones
  2. Dal Ein Tir - Bryn Terfel a Rhys Meirion
  3. Gloria - Côr y Glannau
  4. Y Clychau - Leah Owen a Parti'r Ynys
  5. Tân Glyndŵr - Meibion Menlli
  6. Cilfan y Coed - Trystan Llŷr Griffiths
  7. Caryl - Y 4o5's
  8. Arian, Arian - Côr Theatr Clwyd
  9. Carnedd yw'r Tŵr - Cantorion Gwalia
  10. Yr Hen Win - Côr y Glannau
  11. Digon i Mi - Rhydian Jenkins
  12. Emyn o Fawl - Côr Theatr Clwyd
  13. Bwthyn Gwyn - Parti'r Ffynnon
  14. Y Ddraenen Wen - Aled Wyn Davies
  15. Tapestri - Meibion Menlli
  16. Dros y Gorwel - Steffan Rhys Hughes a Ceri Haf Roberts
  17. Af, Af yn Ôl - Côr Theatr Clwyd
  18. O Gymru - Jane Evans a Diliau Dyfrdwy
  • Product ID : Sain SCD2747
  • Label: Sain
  • Genre:
  • Format: Album
  • Released: 2016

Language

Cymraeg

My Basket

Items : 0 | Value : £0.00

Twitter @Sainrecords