Sain Records

Elin Fflur - Gwely Plu

Elin Fflur - Gwely Plu

Trac newydd sbon gan y gantores-gyfansoddwraig Elin Fflur – Gwely Plu. Cyd-gyfansoddwyd y gân gyda Mei Gwynedd ac mae’r sengl yn gyd-cynhyrchiad rhwng label Sain a JigCal. Mae hyn yn ddechrau ar gyfnod o gyfansoddi i Elin a’r band gyda’r nod o gyhoeddi albwm newydd sbon ar gyfer Eisteddfod Môn 2017. Bydd Elin a’r band yn perfformio ar faes yr Eisteddfod eleni, Caffi Maes B a llwyfan S4C ac yn dychwelyd i Ŵyl Gopr Amlwch ddiwedd yr Haf gyda’r band llawn. Bydd modd lawrlwytho’r sengl newydd ‘Gwely Plu’ o ddydd Llun, Gorffennaf 18.

Track Listing

  1. Gwely Plu

Language

Cymraeg

My Basket

Items : 0 | Value : £0.00

Twitter @Sainrecords