Sain Records

Piantel - Dathlu Deg

Piantel - Dathlu Deg

Mae Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw yn sicr o fod ymhlith perfformwyr mwyaf cyson llwyfannau cerddorol Cymru, ar wahân i fod yn rheng flaen ein prif offerynwyr. A’u cyswllt byw â’r gynulleidfa sy’n llywio eu dewis o ddarnau ar y casgliad diweddaraf hwn – darnau sy’n dod o sawl cyfeiriad gwahanol, ac o sawl diwylliant gwahanol, ond sy’n anelu’n ddi-feth at glust a chalon y gwrandawyr.

Mae’r cyfuniad unigryw o delyn a phiano a geir gan Piantel yn rhoi bywyd ac apêl newydd i’r caneuon a’r alawon adnabyddus a glywir yn y casgliad hwn, o alaw hamddenol hudolus Rhys Jones Cilfan y Coed i fywiogrwydd heintus Scott Joplin, ac o Ave Maria Bach i ymdeithgan heriol Gwŷr Harlech.Ble bynnag y boch, gwnewch eich hunain yn gyfforddus, amwynhewch greadigrwydd di-ail Piantel wrth i Annette a Dylan ddathlu deng mlynedd o greu cerddoriaeth gyda’i gilydd.

Rhestr y Traciau

  1. Cilfan y Coed
  2. Summertime
  3. Benedictus
  4. El Cumbanchero
  5. Ave Maria
  6. Tico Tico No Fuba
  7. Un Enaid Bach
  8. Granada
  9. The Rose
  10. Gwŷr Harlech
  11. Dyro Dangnefedd i Ni
  12. Tros y Garreg
  13. Home Sweet Home
  14. Medli Scott Joplin (Maple Leaf Rag / The Entertainer)
  15. Medli Nadolig (Hallelujah / White Christmas / Jingle Bells)
  • Rhifnod : Sain SCD2757
  • Label: Sain
  • Genre: Instrumental
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2016

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords