Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Llechi

Artistiaid Amrywiol - Llechi

Prif ardal chwareli llechi Cymru yw’r un sydd yn sir bresennol Gwynedd, wedi ei ganoli ar drefi a chymoedd Blaenau Ffestiniog, Llanberis, Bethesda, Dyffryn Nantlle yn y gogledd, a Chorris, Aberllefenni a Bryn Eglwys yn ne’r sir. Erbyn hyn, er ei fod yn dal i fodoli, mae’r diwydiant wedi crebachu, a llawer o’r chwareli wedi cau. Ond mae traddodiad a diwylliant ardal y chwareli llechi yn dal i ffynnu, a’r boblogaeth leol yn ymhyfrydu yn yr hanes, ac yn arddangos y cyfuniad rhyfeddol o wytnwch a hwyl sydd mor nodweddiadol o’r ardaloedd hyn. A’r elfen arall na ellir ei hosgoi yw cysylltiad y broydd llechi â chanu a cherddoriaeth. Mae traddodiad y corau, y bandiau pres a chanu poblogaidd yn parhau mor fyw ag erioed, ac y mae cyfraniad dyffrynnoedd y llechi i ganu poblogaidd yn ystod y ganrif a aeth heibio yn destun rhyfeddod. O gyfnod y Brodyr Ffransis drwodd i Brython Shag, mae’r hanes yn gyforiog o dalent, gan gynnwys rhai o enwau mawr y byd pop Cymraeg: Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandegai, Celt ac Anweledig. Ac yn gwau drwy’r cyfan mae cryfder cymeriad a’r ddawn i chwerthin yn wyneb caledi yn disgleirio, ac fel y gwelir o’r casgliad hwn, daw geiriau nifer o’r caneuon gan feirdd enwog sy’n hannu o fro’r llechi eu hunain.
Dafydd Iwan, Gorffennaf 2016

Track Listing

  1. Strydoedd Bethesda - Hogia'r Bonc
  2. Gweithio ar Wyneb y Graig - Geraint Jarman
  3. Dyffryn Ogwen - Hogia Llandegai
  4. Un Nos Ola' Leuad - Endaf Emlyn
  5. Cerdd yr Hen Chwarelwr - Hogia'r Wyddfa
  6. Graffiti Cymraeg - Anweledig
  7. Moliannwn - Gwerinos
  8. Cân y Ddwy Chwarel - Dafydd Iwan
  9. Cerdded Hyd y Llethrau - Lleisiau Mignedd
  10. Cwmorthin - Mim Twm Llai
  11. Rheilffordd Tal-y-Llyn - Ryan Davies
  12. Quarry (Man's Arms) - Sobin a'r Smaeliaid
  13. Llongau Caernarfon - Chris Jones
  14. Chwarelwr - John ac Alun
  15. Chwarel Dinorwig - Hogia'r Wyddfa
  16. Tafarn yn Nolrhedyn - Mim Twm Llai
  17. Dawns y Glaw - Anweledig
  18. The Streets of Bethesda - Celt
  • Rhifnod : Sain SCD2756
  • Label: Sain
  • Genre: Compilation
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2016

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords