Sain Records

Sorela - Sorela

Sorela - Sorela

Tair chwaer o ardal Aberystwyth yw Sorela sef Lisa, Gwenno a Mari. Yn fam iddynt mae’r gantores gwerin adnabyddus, Linda Griffiths o Sir Drefaldwyn, roedd Linda hefyd yn aelod o’r grŵp Plethyn gyda’i brawd Roy Griffiths a John Gittins. Dechreuodd y tair canu harmoni gyda Linda mewn cyngherddau ac ar ei chryno-ddisgiau diweddar ond yn 2014 penderfynodd y tair sefydlu Sorela ac ers hynny maent wedi diddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt. Dyma gryno-ddisg unigol cyntaf Sorela, mae’n cynnwys cymysgedd o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol gyda bob trac yn acapella. Hefyd, mae Lisa wedi mentro i’r byd cyfansoddi am y tro cyntaf gan gyfansoddi neu gyd-gyfansoddi 5 cân ar Adar y Gwanwyn.

Camilla Gittins, merch yr artist Kathy Gittins sy’n gyfrifol am waith celf y cd. Mae Kathy Gittins yn gyfnither i Linda Griffiths, ac wedi creu gwaith celf i nifer o recordiau Linda. Roedd Sorela yn awyddus i barhau gyda’r traddodiad felly dyma ofyn i Camilla greu darn o waith yn arbennig ar gyfer y casgliad. Mae Camilla yn gweithio i Tommy Hillfiger yn Amsterdam.

Rhestr y Traciau

  1. Blode
  2. Heli
  3. Am Ba Hyd?
  4. Adar y Gwanwyn
  5. Fe Gerddaf Gyda Thi
  6. Hen Ferchetan
  7. Tra Bo Dau
  8. Nid Gofyn Pam
  9. Ar Lan y Môr
  10. Lleuad
  11. Tŷ ar y Mynydd
  12. Ni Allaf Wylo
  • Rhifnod : Sain SCD2755
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2016

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords