Sain Records

Daniel Lloyd a Mr Pinc - Mesur y Dyn

Daniel Lloyd a Mr Pinc - Rasal LL031

Wedi saith mlynedd o seibiant mae’n braf cael croesawu un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn ôl i’r sin a hynny gyda sengl newydd sbon!

Ail ffurfiodd Daniel Lloyd a Mr Pinc dechrau’r flwyddyn ar gyfer gig Gŵyl Ddewi yn Saith Seren, Wrecsam – a gymaint oedd y croeso, gwerthwyd bob tocyn i’r gig! Ers hynny mae’r band wedi derbyn nifer o gynigion ac mae haf prysur o’u blaenau gyda pherfformiadau yn Parti Ponty, Gŵyl Rhuthun a llwyfan y maes yn Eisteddfod Môn!

Mae’r gân newydd ‘Mesur y Dyn’ ar gael yn ddigidol, dydd Llun Ebrill 17eg o iTunes ac Apton a’r gobaith yw cyhoeddi mwy o senglau gan y band dros y flwyddyn nesaf. Dyma ychydig o gefndir i’r gân gan Daniel Lloyd; ‘Ymysg rhai caneuon eraill, roedd esgyrn cerddorol a syniad bras Mesur Y Dyn gennym ni tua 6 mlynedd yn ôl. Ar ôl ailffurfio, hon oedd y gân amlwg i drio gweithio arni fel sengl. Ma’ geiriau’r corws wedi eu hysbrydoli gan hen ddarn o destun o’r enw Mesur Dyn neu Measure Of Man, sef hen destun crefyddol, sy’n pwyso a mesur sut da ni’n byw ein bywydau… lle ma’r gwerth yn ein bywyd a sut ma’n gweithredoedd yn ein diffinio ni. O’r syniad yma fe ddaeth y themâu o ryfel, brwydro, iselder a phob math o bethe eraill… gan ystyried y pethe sy’n neu i ni gwestiynu be di Mesur Dyn y dyddie ma? yda ni digon da? Hyn i gyd mewn anthem roc epic efo llwyth o gitars harmoni wrth gwrs!! Roeddwn ni’n chwilio am sampl i greu effaith a gwead yn y gân. Ma’r llais ar y dechre yn solo sy’n perthyn i Spiro Agnew – yr is-lywydd America gwaetha erioed!’

Cyfansoddwyd y sengl newydd ‘Mesur y Dyn’ gan Daniel Lloyd – mae Dan wedi gweithio ar nifer o brosiectau cerddorol / theatrig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cyfnod yn y West End fel rhan o’r sioe ‘The Commitments’ yn ogystal â rhan yn y ffilm ‘The Muppets Most Wanted’.

Rhestr y Traciau

  1. Mesur y Dyn

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL031
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Rock
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2017

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal