Recordio
Pecynnau Recordio Sain 2012
Pwy yw Sain?
Ffurfiwyd y cwmni yn 1969 i roi cyfle i gerddorion Cymru recordio yng Nghymru gyda’r
cyfleusterau gorau posib. Erbyn hyn, mae’r cwmni yn gwerthu cerddoriaeth ddigidol, cryno-ddisgiau ac amryw o nwyddau eraill i bob rhan o’r byd.
Mae catalog y cwmni’n cynnwys pob math o gerddoriaeth – o recordiadau gan artistiaid rhyngwladol o fri fel Bryn Terfel, Tri Tenor Cymru, John Owen-Jones, Aled Jones a Catatonia i rhai o brif gorau meibion a chymysg Cymru.
Stiwdio Sain
Mae tair stiwdio yng Nghanolfan Sain ger Llandwrog. Mae stiwdio 1 yn gallu cymryd corau hyd
at 50 mewn nifer yn gyfforddus, neu grwpiau offerynnol amrywiol, ac mae piano Yamaha grand wedi ei leoli yno.
Mae stiwdio 2 a 3 yn addas ar gyfer recordio deunydd llafar neu offeryn unigol, neu ar gyfer trosleisio ac ôl-gynyrchu.
Gellir gweld lluniau o’r stiwdio a mwy o fanylion ar ein gwefan
http://www.sainwales.com/cy/services/studio
Ein gwasanaeth:
Ol-gynyrchu – Golygu, cymysgu a mastro digidol
Mae croeso i chi fod yn bresennol mewn unrhyw sesiwn ôl-gynhyrchu. Fe gewch gopi o’r master gorffenedig i wrando arno a’i gymeradwyo cyn iddo gael ei ddyblygu.
Cynllunio ac argraffu’r cloriau
Bydd y cloriau mewn lliw llawn ac wedi eu cynllunio’n broffesiynol. Mae croeso i chi anfon
lluniau a chynnwys ar gyfer y clawr ac fe gewch broflenni i’w cymeradwyo cyn argraffu.
Clirio hawlfraint a thaliadau hawlfraint
Bydd Sain yn gyfrifol am glirio caniatâd a phob taliad hawlfraint, a gallwn hefyd gynnig
gwasanaeth cofrestru pob gwaith newydd gyda’r PRS a’r MCPS er mwyn sicrhau fod pob
cyfansoddwr a threfnydd yn cael yr hyn sy’n ddyledus iddynt. Mae clirio cyfieithiadau yn
cymryd amser ac felly mae’n bwysig eich bod yn anfon rhestr caneuon i ni cyn gynted â phosib.
Mae ein pecynnau recordio yn hyblyg iawn – gallwn gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i wneud eich prosiect yn llwyddiannus.
Pecyn Syml
• 4 awr recordio yn y stiwdio gyda pheiriannydd profiadol
• 4 awr ôl-gynhyrchu (golygu, cymysgu a chreu master)
• Clawr 4 tudalen lliw llawn wedi ei ddylunio’n broffesiynol
• Gwasanaeth clirio hawlfreintiau a chofrestru caneuon
• 500 copi o’ch CD
£1000 +TAW
Pecyn Safonol
• 1 diwrnod recordio yn y stiwdio gyda pheiriannydd profiadol
• 1 diwrnod ôl-gynhyrchu (golygu, cymysgu a chreu master)
• Clawr 8 tudalen lliw llawn wedi ei ddylunio’n broffesiynol
• Gwasanaeth clirio hawlfreintiau a chofrestru caneuon
• 500 copi o’ch CD
£1500 +TAW
Pecyn Arian
• 2 ddiwrnod recordio yn y stiwdio gyda chynhyrchydd a pheiriannydd profiadol
• 2 ddiwrnod ôl-gynhyrchu (golygu, cymysgu a chreu master)
• Clawr 8 tudalen lliw llawn wedi ei ddylunio’n broffesiynol
• Gwasanaeth clirio hawlfreintiau a chofrestru caneuon
• 500 copi o’ch CD
£2200 + TAW
Pecyn Aur
• 2 ddiwrnod recordio yn y stiwdio gyda chynhyrchydd a pheiriannydd profiadol
• 3 diwrnod ôl-gynhyrchu (golygu, cymysgu a chreu master)
• Clawr 12 tudalen lliw llawn wedi ei ddylunio’n broffesiynol
• Gwasanaeth clirio hawlfreintiau a chofrestru caneuon
• Hyrwyddo a dosbarthu eich cynnyrch gan dîm profiadol Sain
• 1000 copi o’ch CD
£3400 + TAW
Opsiynau ychwanegol – telerau i’w trafod
• Recordio mewn lleoliad allanol o’ch dewis – gall fod y lle y byddwch yn ymarfer, neu adeilad arall y carech ei logi. Yr artist fydd yn gyfrifol am gostau’r lleoliad a sicrhau bod y lleoliad yn addas.
• Cyfeiliant offerynnol ychwanegol.
• Copiau CD ychwanegol
• Rhyddhau ar ffurf digidol – ar wefan Sain, ac ar wefannau digidol eraill (i-tunes, e-music)
• Llogi piano ddigidol safonol
• Pecynnu amrywiol
Recordio mewn lleoliad allanol o’ch dewis – gall fod y lle y byddwch yn ymarfer, neu adeilad arall y carech ei logi. Yr artist fydd yn gyfrifol am ein costau teithio, costau’r lleoliad a sicrhau bod y lleoliad yn addas.
Talu am eich Pecyn Recordio
Bydd blaendal o 10% o’r gost yn daladwy mis cyn i chi recordio. Yna gallwch dalu’r gweddill mewn un taliad pan fyddwch yn derbyn eich CD neu rannu’r swm dros flwyddyn a thalu
25% pob chwarter. Os fyddwch yn talu’r cyfanswm mewn un taliad byddwn yn cynnig gostyngiad o 5%.
Unwaith byddwch wedi cytuno ar ddyddiadau recordio gyda Sain, byddwn yn
anfon cytundeb recordio atoch. Bydd y cytundeb yn nodi’r dyddiadau recordio,
a’r nifer o gryno-ddisgiau yr ydych am eu harchebu.
Cysylltwch ag .(JavaScript must be enabled to view this email address) neu .(JavaScript must be enabled to view this email address) gydag unrhyw ymholiad.
RECORDIAU CORFFORAETHOL
Os yw eich cwmni neu fudiad am gael casgliad o ganeuon ar CD fel anrheg neu gyfrwng PR corfforaethol, gyda neges arbennig – dewch i siarad gyda ni.
TRWYDDEDU
Os ydych yn awyddus i recordio eich hun mewn stiwdio arbennig neu adref ar eich cyfrifiadur ond yn chwilio am label i drwyddedu’r CD er mwyn rhyddhau’r gwaith yn fasnachol yna cysyllter â Dafydd Roberts ar .(JavaScript must be enabled to view this email address) i drafod y prosiect ymhellach.
RHYDDHAU CD MASNACHOL AR UN O LABELI CWMNI RECORDIAU SAIN
Os ydych yn awyddus i ryddhau CD masnachol ar label SAIN. RASAL, COPA neu GWYMON yna anfonwch demo o’ch caneuon ar CD ynghyd ag ychydig o fanylion amdanoch eich hun neu’r grwp at sylw’r Panel Cynnyrch, Canolfan SAIN, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG neu .(JavaScript must be enabled to view this email address) (SAIN) a .(JavaScript must be enabled to view this email address) (RASAL, COPA neu GWYMON)



