History
CERDDORIAETH O GYMRU
CWMNI SAIN – YR HANES YN FYR
O GAERDYDD I LANDWROG
Sefydlwyd SAIN yng Nghaerdydd yn 1969, gan DAFYDD IWAN, HUW JONES, a BRIAN MORGAN EDWARDS, a chyhoeddwyd ei record gyntaf ar Hydref 9fed y flwyddyn honno.
Symudwyd swyddfa’r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, yn 1971 er mwyn i’r cwmni fod yn nes i’r gynulleidfa Gymraeg, ac fel rhan o’r symudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a setlodd y naill yn Llandwrog a’r llall yn y Waunfawr.
Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch am y tair blynedd gyntaf, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir hefyd. O ran y deunydd, roedd y pwyslais ar ganu’r ifanc, ac yn arbennig y canu “protest”.
Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf SAIN ar fferm GWERNAFALAU ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â‘r staff fel cynhyrchydd.
“YR OES AUR”
1975 – 1979 oedd “oes aur ”Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o’r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, roedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel EDWARD H. DAFIS wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu “diwylliant roc” eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod ar label SAIN oedd HERGEST a DELWYN SIÔN, GERAINT JARMAN, HEATHER JONES, MEIC STEVENS, TECWYN IFAN, MYNEDIAD AM DDIM, TEBOT PIWS, ENDAF EMLYN, BRÂN, SHWN, AC ERAILL a SIDAN.
Roedd DAFYDD IWAN yn parhau i brocio a diddanu’r tyrfaoedd gyda’i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â‘r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg. Enillodd Plaid Cymru ei sedd gyntaf yn San Steffan yn 1966 ac yr oedd Dafydd Iwan yn ymgeisydd ym Môn pan enillwyd seddau Arfon, Meirion a Chaerfyrddin yn1974.
TREBOR EDWARDS a HOGIA’R WYDDFA oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu “canol-y-ffordd”, yn ogystal â grwpiau eraill fel HOGIA LLANDEGAI a TONY AC ALOMA. Os mai’r artistiaid a enwyd uchod oedd yn torri tir newydd, gwerthiant recordiau’r artistiaid hyn, a recordiau CORAU MEIBION, oedd prif ffynhonell ariannol y cwmni yn y cyfnod hwn. Cantorion eraill sydd wedi ennill clust y werin a tharo’r uchelfannau o safbwynt gwerthiant i gwmni SAIN yw TIMOTHY EVANS, JOHN AC ALUN, BRYN FÔN, AR LOG, PLETHYN a DAFYDD IWAN. Mae elfen gref o’r Canu Gwlad hefyd wedi bod yn gyson boblogaidd yang Nghymru, gydag enwau fel DOREEN LEWIS, IONA AC ANDY, DYLAN A NEIL, BROC MÔR, a BRENDA EDWARDS yn sefyll allan, a llu o grwpiau gwerin cyfoes o safon megis 4 YN Y BAR, GWERINOS, JAC-Y-DO, PIGYN CLUST ac IGAM OGAM.
Ymhlith y to newydd o gantorion a grwpiau, mae talentau gwreiddiol a disglair megis ELIN FFLUR, GAI TOMS (MIM TWM LLAI ac ANWELEDIG), SIBRYDION, DANIEL LLOYD a MR PINC a GWIBDAITH HEN FRÂN.
Mae CASGLIADAU bob amser yn elfen bwysig o werthiant unrhyw gwmni recordiau, ac nid yw SAIN yn eithriad. Mae casgliadau SWFENÎR, casgliadau gwerin a chlasurol, goreuon artistiaid unigol, ac yn arbennig casgliadau CORAU MEIBION ymhlith y recordiau a werthodd fwyaf erioed, ac yn cymharu’n dda gyda gwerthiant albyms Saesneg.
STIWDIO NEWYDD :
Agorwyd Stiwdio newydd SAIN gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, roedd hi gyda’r mwyaf modern o’i bath yn Ewrop, ac roedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i’r un safle â‘r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio yn amser llawn i’r cwmni.
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu’r stiwdio newydd, a bu’n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN fel yr oedd amser yn caniatau.
Cymerwyd lle HEFIN ELIS fel cynhyrchydd staff gan GARETH HUGHES JONES, ac yna gan EMYR RHYS. Cynhyrchwyr eraill a fu’n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw TUDUR MORGAN, LES MORRISON, SIMON TASSANO, DONAL LUNNY, EUROS RHYS, STEFFAN REES, GARETH GLYN, GERAINT CYNAN, MYFYR ISAAC, ANNETTE BRYN PARRI, a’r diweddar GARETH MITFORD WILLIAMS.
O’R FEINYL I’R CD
Recordiau hir (LP) a chasetiau oedd prif gynnyrch SAIN trwy gydol y 70au a’r 80au, ond yna’n raddol collodd y feinyl ei le i’r Cryno-Ddisg. Bu’r CD a’r caset yn cyd-fyw am flynyddoedd, ond gyda throad y ganrif, dechreuodd y caset hefyd ddiflannu, ac erbyn hyn, y CD a’r DVD yw’r ddau brif fformat.
Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â‘r gallu i olygu’n ddigidol, ac erbyn hyn mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau cryfach â‘r byd ffilm a theledu.
Ar ddechrau’r 90au, bu dau ddatblygiad pwysig yn hanes SAIN. Y cyntaf oedd sefydlu label CRAI, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc, miwsig dawns a chyfrifiadurol. Ar y label hon yr ymddangosodd CATATONIA a BOB DELYN gyntaf, yn ogystal â MIKE PETERS a’r ALARM. Bu Rhys Mwyn yn rhedeg label Crai am rai blynyddoedd cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun.
Sefydlu FIDEO SAIN oedd yr ail, o dan ofal O.P.Huws. Bu SAIN yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond bellach ychwanegwyd fideos gwreiddiol gan SAIN. Yn Stiwdios Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD. Erbyn hyn, gyda’r dechnoleg yn datglybu’n gyflym, mae gan y cwmni UNED AML-GYFRYNGOL sy’n gallu awduro, dybio, golygu a dyblygu ar gyfer DVDau yn Gymraeg a Saesneg, Mae’n cynhyrchu ar gyfer SAIN ei hun, ar gyfer S4C, ac ar ran cynhyrchwyr allanol.
CLASUROL
BRYN TERFEL yw enw enwocaf adran glasurol Recordiau SAIN, ac ar label SAIN y cyhoeddodd ei ddwy albym gyntaf. Erbyn hyn, mae ganddo bedwar albym unigol, deuawdau gyda Rhys Meirion, sengl Hafan Gobaith, ac mae’n cyd-ganu ar Atgof o’r Sêr a Bread of Heaven. Gwelir rhestr hir o gantorion byd-enwog eraill yng nghatalog SAIN: GWYN HUGHES JONES, RHYS MEIRION, REBECCA EVANS, DENNIS O’NEILL, STUART BURROWS, JASON HOWARD, ALED JONES, MARY LLOYD-DAVIES, FFLUR WYN, LEAH-MARIAN JONES, SUSAN BULLOCK, JEREMY HUW WILLIAMS – ac y mae enwau newydd yn ymuno â’r rhain o hyd.
Y DELYN yw offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae gan SAIN ddewis helaeth o gerddoriaeth telyn yn ein catalog. Mae nifer o brif delynorion y wlad wedi recordio i SAIN, ar y delyn bedal glasurol, y delyn Geltaidd fechan, ac ar y Delyn Deires draddodiadol. Yn eu plith mae CATRIN FINCH, GWENAN GIBBARD, OSIAN ELLIS, ELINOR BENNETT, MEINIR HEULYN, ROBIN HUW BOWEN, NANSI RICHARDS, DYLAN CERNYW, DAFYDD HUW, ROBIN JAMES JONES, CARYL THOMAS a DELYTH JENKINS.
CORAU MEIBION efallai yw elfen enwocaf y canu Cymreig, ac mae bron bob un o’r corau amlycaf wedi recordio i SAIN, gan gynnwys PENDYRUS, ORFFIWS TREFORYS, RHOS, LLANELLI, GODRE’R ARAN, CAERNARFON, Y TRAETH a PHONTARDDULAIS. Hefyd nifer fawr o gorau merched a chymysg sydd ymhlith y goreuon: SEIRIOL, RHUTHUN, CANNA, EIFIONYDD, BRO GWERFYL, SIRENIAN, ADLAIS, CÔRDYDD, CF1 a SERENDIPITY.
AML-GYFRYNGOL a’r WÊ
Yn 1997, ail-drefnwyd y cwmni’n ddwy brif adran, sef RECORDIAU SAIN (dan ofal DAFYDD IWAN) a SAIN AML-GYFRYNGOL (dan ofal O.P. HUWS), a gosod system gyfrifiadurol newydd i reoli holl waith a stoc y cwmni, ac aeth y cwmni ar y We Fyd-eang. Bellach, mae gwerthu drwy’r post a thros y rhyngrwyd yn rhan bwysig o weithgarwch y cwmni. Ehangodd nifer y dosbarthwyr rhyngwladol trwy i Sain fynychu ffeiriau masnach ar gyfer cerddoriaeth y byd, yn arbennig Womex a Midem.
Ar ddechrau’r ganrif newydd, camodd SAIN i fyd newydd eto ac agor siop NA-NÔG ar y Maes yng Nghaernarfon, ac yn Stryd Madog, Llandudno. Bellach, daeth lês siop Llandudno i ben, ond parheir i werthu eu cynnyrch helaeth ar-lein.
Yn 2003, sefydlwyd label cerddoriaeth llyfrgell SLIC a chyhoeddi cerddoriaeth gyda Gwenan Gibbard yn Rheolwr. Gwenan hefyd sy’n gyfrifol am gysodi cerddoriaeth brintiedig y cwmni, yn ogystal â bod yn un o artistiaid ifanc mwyaf llwyddiannus y cwmni.
PRIF WEITHREDWR NEWYDD
Yn Ionawr 2004 penodwyd Dafydd Roberts (sy’n adnabyddus fel aelod o’r grwp gwerin AR LOG) fel Prif Weithredwr Cwmni Sain. Datblygodd strwythur Adrannol newydd i’r cwmni, gyda rheolwr/aig ar gyfer pob Adran, cyflwynodd gatalog SAIN i’r byd lawr lwytho digidol a sefydlodd label newydd RASAL ar gyfer cerddoriaeth yr ifanc. Bu Aled Ifan yn Rheolwr RASAL am gyfnod cyn i Guto Brychan gymryd yr awenau yn 2007. Ffurfiodd Guto ddwy is-label arall i gynrychioli cerddoriaeth indie (COPA) a chantorion-gyfansoddwyr (GWYMON).
Yn 2007, ymddeolodd O. P. Huws fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng, ond mae’n parhau i fod yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni.
Yn 2008, agorwyd trydedd stiwdio’r cwmni, lle cynhyrchir a throsleisir cartwnau ar gyfer S4C a DVDs y cwmni. Yno hefyd, ôl-gynhyrchir rhaglenni radio, ffilm a theledu, a phrosesu pecynnau preifat i gwmnïau corfforaethol.
Erbyn hyn, mae 34 o bobl yn gweithio i SAIN yn amser llawn, llawer iawn mwy yn dod trwy ddrysau’r tair stiwdio yn ddyddiol, ac mae’r arloesi’n parhau! Ac yn bwysicaf oll, mae artistiaid newydd yn dal i ymddangos o hyd, a’u cynnyrch yn cael ei ledaenu ar hyd a lled y byd trwy wyrthiau’r dechnoleg ddigidol yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol.
Fel erioed, mynd a cherddoriaeth a diwylliant Cymru i’r byd yw ein nôd.



