Sain Records

TUDUR HUWS JONES

Bywgraffiad

Mae Tudur Huws Jones yn un o enwau mawr y byd recordio Cymraeg, yn bennaf fel aelod o'r bandiau gwerin Cilmeri, 4 yn y bar, Branwen a Gwerinos. Mae'n offerynnwr talentog, ar y banjo, gitarau ac amrywiaeth o bibau. Bu'n cyfeilio ar nifer fawr o recordiau, ac yn cyfeilio i lawer artist mewn perfformiadau byw. Ond mae Tudur hefyd yn gyfansoddwr geiriau ac alawon o fri, a daw hynny i amlygrwydd ar ei albym "Dal i Drio" ar label SAIN. Mae llawer o'r caneuon yn seiliedig ar straeon a hanes gwir, a gwelir dylanwadau "blue-grass" a Gwyddelig ar yr arddull. Ond yn bennaf oll, clywir yma wir artist yn mynegi ei hun mewn dull gwreiddiol a diffuant, gan ddangos ei gefnogaeth amlwg i bobol fel gweithwyr ffatri "Friction Dynamics" Caernarfon a fu ar streic dros eu hawliau fel gweithwyr ar ddechrau'r 21 ganrif - union ganrif ar ol Streic Fawr Chwarel y Penrhyn.

Traciau ar hap

  1. PERFFAITH
  2. CAU DRWS Y TY
  3. YN FY MYNWES
  4. OS DAW 'NGHARIAD
  5. AMSER MAITH YN OL
  6. MAGI TUDUR
  7. CARPED HUD
  8. MILIWN
  9. DAL I DRIO
  10. SBAEN 1936

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords