TEBOT PIWS
Bywgraffiad
Roedd y Tebot Piws yn enigma o'r dechrau, ac yr oedd rhywfaint o amheuaeth a fydden nhw'n ymddangos neu beidio mewn cyngerddau. Ond pan fydden nhw'n cyrraedd, roedden nhw'n tynnu'r lle i lawr! Caneuon hwyliog, bywiog, tafod-yn-y-boch, gydag ambell i berl ddwysach yn eu mysg, digon o ddychan iach a llwythi o hiwmor amgen Dewi Pwsaidd. Roedd y grwp - ac y maen nhw hyd heddiw, yn gallu manteisio ar ddawn rhai o'r goreuon o blith ein cyfansoddwyr cyfoes - Alun 'Sbardun' Huws, Emyr Huws Jones a Dewi 'Pws' Morris ei hunan. Yr aelod arall yw Stan Morgan Jone o Fodedern yn wreiddiol. Cyhoeddwyd casgliad o'u caneuon - "Y Gorau a'r Gwaetha" (SAIN SCD 2049) - yn 1994.
Traciau ar hap
- IE, IE, 'NA FE
- DIFERION O WAELOD Y TEBOT
- YR HOGYN PREN
- DAN DDWR OER Y LLYN
- MARWNAD LLON WILI JOHN
- MAE RHYWUN WEDI DWYN FY NHRWYN
- MAE GEN I GARIAD
- Y CYMRO
- 'DYN NI DDIM YN MYND I BYRMINGHAM
- LLANFIHANGEL


